Beth yw eiriolaeth?
Mae eiriolaeth yn wasanaeth annibynnol a chyfrinachol am ddim sydd yn eich helpu i ddeall eich hawliau a chael mwy o lais, dewis a rheolaeth pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sydd yn cael effaith arnoch chi.
"Roedd yr eiriolwr yn gwrando o ddifrif ac yn fy helpu i deimlo'n rhan yn yr hyn oedd yn digwydd. Roeddent yn deall y system a rhoddwyd hyder i mi i gymryd rhan a chodi llais, er na chefais bopeth yr oeddwn yn dymuno."
Sut gall eiriolwr helpu?
Mae eiriolwr yn rhywun fydd:
yno yn arbennig i chi ac yn eich cefnogi
yn eich helpu i ddarganfod a deall gwybodaeth
yn eich helpu i ystyried eich opsiynau a gwneud penderfyniadau eich hun
yn sicrhau bod gwrandawiad ac ystyriaeth i'ch barn, dymuniadau a theimladau
yn siarad ar eich rhan pan fydd angen hynny
A yw'r llinell gymorth eiriolaeth yn addas i mi?
Ydy os ydych chi:
yn ofalwr 18+, yn byw yng Ngwent Fwyaf ac angen cymorth i siarad gyda gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau cyhoeddus am anghenion gofal a chefnogaeth chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdanynt
you are 18+, live in Greater Gwent (Blaenau Gwent, Caerphilly, Monmouthshire, Newport*, Torfaen), and need help talking to professionals in public services about your care and support needs
*please note that Dewis CIL manage advocacy requests for residents of Newport County Council
yn berthynas, ffrind neu'n weithiwr proffesiynol sydd yn credu byddai rhywun yn buddio o dderbyn eiriolaeth
Beth sydd yn digwydd pan fyddaf yn cysylltu â'r llinell gymorth eiriolaeth?
We offer information, advice and support with signposting and referrals to adult advocacy services.
As we are independent of local authorities, the NHS and advocacy providers, we can ensure that you receive the type of advocacy that is right for you.
Byddem yn:
gofyn am ychydig o wybodaeth sylfaenol, gan gynnwys manylion cyswllt (yn unol â rheolau amddiffyn data)
gofyn i chi ddisgrifio'ch sefyllfa yn gryno
eich hysbysu am y gwahanol fathau o eiriolaeth
trafod y math o eiriolaeth sydd fwyaf addas i chi
darparu gwybodaeth am wasanaethau eiriolaeth sydd yn agored i chi a sut i gysylltu
Strategaeth Eiriolaeth Gwent 2024 - 2029
Dylai pawb yng Ngwent fod â mynediad cyfartal i gymorth eiriolaeth o ansawdd uchel pan fyddant angen hynny.
Mae eiriolaeth yn ymwneud â sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sydd yn cael effaith ar eich bywyd. Mae Strategaeth Eiriolaeth Gwent yn gosod sut bydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent yn cynnig eiriolaeth ar draws y rhanbarth sydd yn decach, fwy effeithiol, a haws i gael mynediad iddo.
Cliciwch yma i lawr lwytho Strategaeth Eiriolaeth Gwent 2024-2029 (PDF)
Dolenni defnyddiol
Mae Infoengine yn gyfieiradur o wasanaethau'r trydydd sector yng Nghymru. Click here to visit.

















