Beth yw eiriolaeth?

Mae eiriolaeth yn wasanaeth annibynnol a chyfrinachol am ddim sydd yn eich helpu i ddeall eich hawliau a chael mwy o lais, dewis a rheolaeth pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sydd yn cael effaith arnoch chi.

"Roedd yr eiriolwr yn gwrando o ddifrif ac yn fy helpu i deimlo'n rhan yn yr hyn oedd yn digwydd. Roeddent yn deall y system a rhoddwyd hyder i mi i gymryd rhan a chodi llais, er na chefais bopeth yr oeddwn yn dymuno."

Sut gall eiriolwr helpu?

Mae eiriolwr yn rhywun fydd:

yno yn arbennig i chi ac yn eich cefnogi

yn eich helpu i ddarganfod a deall gwybodaeth

yn eich helpu i ystyried eich opsiynau a gwneud penderfyniadau eich hun

yn sicrhau bod gwrandawiad ac ystyriaeth i'ch barn, dymuniadau a theimladau

yn siarad ar eich rhan pan fydd angen hynny

A yw'r llinell gymorth eiriolaeth yn addas i mi?

Ydy os ydych chi:

yn ofalwr 18+, yn byw yng Ngwent Fwyaf ac angen cymorth i siarad gyda gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau cyhoeddus am anghenion gofal a chefnogaeth chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdanynt

yn 18+, yn byw yng Ngwent Fwyaf (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen) ac angen cymorth i siarad gyda gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau cyhoeddus am eich anghenion gofal a chefnogaeth

yn berthynas, ffrind neu'n weithiwr proffesiynol sydd yn credu byddai rhywun yn buddio o dderbyn eiriolaeth

Beth sydd yn digwydd pan fyddaf yn cysylltu â'r llinell gymorth eiriolaeth?

We offer information, advice and support with signposting and referrals to adult advocacy services. 

As we are independent of local authorities, the NHS and advocacy providers, we can ensure that you receive the type of advocacy that is right for you.

Byddem yn:

gofyn am ychydig o wybodaeth sylfaenol, gan gynnwys manylion cyswllt (yn unol â rheolau amddiffyn data)

gofyn i chi ddisgrifio'ch sefyllfa yn gryno

eich hysbysu am y gwahanol fathau o eiriolaeth

trafod y math o eiriolaeth sydd fwyaf addas i chi

darparu gwybodaeth am wasanaethau eiriolaeth sydd yn agored i chi a sut i gysylltu

Dewis Cymru yw'r lle i gael gwybodaeth llesiant yng Nghymru. Click here to visit.

Mae Infoengine yn gyfieiradur o wasanaethau'r trydydd sector yng Nghymru. Click here to visit.

Adnoddau

BGwent stori ein bywydau

Pecyn Cyfryngau

cyWelsh